top of page
  • Writer's pictureLEB Construction

LEB Construction yn Dathlu Prosiect Neuaddau Pantycelyn


LEB Construction celebrates Pantycelyn Halls Project

Mae LEB Construction wedi cwblhau pecyn sylweddol o waith ar y prosiect proffil uchel gwerth £16.5m i adfer Neuaddau Preswyl hanesyddol Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.


Penododd Morgan Sindall LEB Construction fel un o'i prif isgontractwyr ar y prosiect adfer i ddarparu sawl pecyn gwaith gan gynnwys estyniadau ac addasiadau, sylfeini, toeau, cladin a phlastro.


Roedd y tîm yn ymwneud â saernïo a gosod y proffil pensaernïol trawiadol sy'n cynnwys derbynfa alwminiwm wydr. Roedd angen sgiliau ac ymrwymiad sylweddol ar gyfer y gosodiad cymhleth yma i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau'n gywir ac yn amserol.


Dywedodd Dale Harris MCIOB AssocRICS, rheolwr prosiect Morgan Sindall: "Ar brosiect mor uchel ei broffil ar ased cenedlaethol, roedd angen tîm medrus arnom i weithio i'n safonau uchel, parchu terfynau amser tynn ac a allai addasu i unrhyw heriau a oedd yn gysylltiedig â'r prosiectau.


"Buom yn gweithio ar y cyd â LEB Construction i ddatrys unrhyw broblem fu’n codi gydag ateb oedd yn gweithio i’r ddwy ochr. Fel cwmni maent yn rhannu'r un safonau uchel â Morgan Sindall ac mae ganddynt ymrwymiad i gwblhau y gwaith, hyd yn oed mewn amodau heriol.


"Roedd hyn yn golygu y gallem ymddiried ynddynt i gwblhau gwaith ychwanegol annisgwyl sy'n digwydd yn naturiol wrth weithio mewn hen adeilad."

bottom of page