top of page
  • Writer's pictureLEB Construction

LEB Construction yn Cwblhau Prosiect Toi Ysgol yn Synod Inn


Mae LEB Construction wedi cwblhau prosiect toi yn Ysgol Gymunedol Bro Siôn Cwilt. Lleolir yr ysgol, sydd yn ysgol ddwyieithog i 120 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed, ger pentref Synod Inn, rhwng Aberaeron ac Aberteifi.

Wedi'i adeiladu tua 12 mlynedd yn ôl, mae'r ysgol wedi dioddef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o do sy'n gollwng, ac a oedd yn achosi difrod i'r gorffeniadau mewnol. Roedd cwmpas y gwaith yn cynnwys cael gwared ar y teils to presennol a'r haen waelodol ffelt, a gosod y teils llechi Britmet 2000 ar Tyvek Supro Pro newydd.

Roedd y to 1,500m2 yn cynnwys rhai manylion technegol heriol yn cynnwys gorffeniadau o gwmpas ffenestri Velux, paneli solar, a llusern do mawr wydr. Bu’r tîm yn gweithio’n agos gyda chwmni gweithgynhyrchu DU Britmet, i ddarparu atebion technegol, addasu cynhyrchion sy'n bodoli eisoes a gosod dulliau i atal mynediad pellach i ddŵr a thywydd drwg, a chwblhau'r system doi. Cwblhaodd tîm toi LEB hyfforddiant gosod Britmet ac o’r herwydd gall ddarparu gwarant a gefnogir gan y gweithgynhyrchwr ar gyfer y to.


Dywedodd Chris Farmery, Rheolwr Contractau yn LEB Construction: "Bydd ein tîm wastad yn cael ein cymell i chwilio am yr atebion cywir, yn enwedig gyda materion technegol. Rydym yn cymryd amser i feddwl drwy'r problemau ac adolygu gyda'r cleient er mwyn darparu penderfyniad sy'n gweithio i'r cleient ac i dîm y prosiect.

Mae'r penderfyniad i ddarparu cynnyrch terfynol o ansawdd, ar gynllun oedd weithia’n gynllun heriol, yn dyst i gymhelliant a pharodrwydd i weithio y tîm."

bottom of page