top of page
  • Writer's pictureLEB Construction

LEB yn darparu cyfleusterau ymchwil labordy o'r radd flaenaf i Brifysgol Aberystwyth

Mae LEB Construction wedi cwblhau prosiect Labordai Sêr Cymru: i ddarparu gofodau labordy o'r radd flaenaf yn Adeilad Carwyn James ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel y Prif Gontractwr ar y prosiect, darparodd LEB Construction becynnau mecanyddol a thrydanol, lloriau, nenfydau crog, gwaith strwythurol, ffenestri a drysau, llenni, dodrefn ac addurniadau, gan greu gofod labordy o'r radd flaenaf.


Mae'r Brifysgol yn gartref i'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol sy'n darparu ymchwil o safon byd-eang ar dwbercwlosis buchod a bydd y cyfleusterau newydd yn gwella enw da'r Brifysgol ymhellach ym maes ymchwil filfeddygol a chlefydau milheintiau.


Enillodd LEB Construction y prosiect drwy dendr cystadleuol a dechreuodd y gwaith ym mis Hydref y llynedd, gan gymryd tri mis i'w gwblhau.


Rhannwyd y ddau labordy gwreiddiol yn dri chyfleuster, gan greu adnodd hyblyg i gefnogi'r swyddogaeth ymchwil. Rhannwyd y gofod mwy yn ddau gan greu labordy imiwnoleg a labordy microbioleg. Cefnogir y rhain gan y trydydd labordy sy'n gweithredu fel ystafell ddadansoddi.


Er mwyn meithrin diwylliant un tîm ar gyfer astudiaethau ymchwil, mae pob labordy yn weladwy i'r llall, gan sefydlu amgylchedd mwy cysylltiedig a diogel.


Mae system aerdymheru wedi'i gosod, a'r nenfwd wedi'i ostwng. Mae hyn, ynghyd â digonedd o olau naturiol grëwyd trwy osod mwy o ffenestri, yn creu amgylchedd gwaith ysbrydoledig. Mae bleinds awtomatig yn caniatáu ar gyfer microsgopeg fflworoleuedd sydd angen ystafell dywyll.


Mae cynllun yr ystafell yn darparu amgylchedd glân ac addasadwy ar gyfer yr offer newydd o’r radd flaenaf, ar gyfer dadansoddi sampl yn gyflym ac yn effeithiol. Mae meinciau symudol yn darparu cynllun hyblyg i gefnogi ôl-osod yr offer.


Cafodd y prosiect ei drosglwyddo'n ddi-drafferth, gan fod y mân broblemau yn cael eu deilio gyda hwynt yn ystod y cyfnod adeiladu gan ganiatáu trosglwyddiad di-dor, di-drafferth i'r cleient yn unol â'n system rheoli ansawdd.


Esbonia'r Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd Ymchwil Sêr Cymru: "Rydym yn adeiladu cyfleuster ymchwil o safon byd-eang yma ym Mhrifysgol Aberystwyth felly roeddem yn mynnu safonau uchel iawn gydol y prosiect, ac rwy'n falch o ddweud bod LEB Construction wedi cyflawni hynny.

"Roeddent yn bleser i weithio gyda hwynt ac roeddynt yn hyblyg a pharod. Roedd y cyfathrebu'n ardderchog a chawsom ymweliadau cynnydd rheolaidd gyda Luke a'r tîm yn esbonio datblygiadau newydd a'r camau nesaf."

Barn Luke Baker, rheolwr gyfarwyddwr LEB Construction yw: "Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig iawn i'r Brifysgol a bydd yn caniatáu iddynt ddenu a chadw'r doniau gorau o bob cwr o'r byd. Mae'r safonau a ddisgwylir gan y cleient yn adlewyrchu hyn ac fel y Prif Gontractwr, gwnaethom yn siŵr bod y tîm cyfan yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith o'r safon uchaf.

"Roedd hyn yn arbennig o heriol gan fod y prosiect wedi'i gwblhau pan oedd y pandemig ar ei anterth oedd yn achosi problemau sylweddol gyda chyflenwi deunyddiau arbenigol ynghyd a rhai o ddydd i ddydd. Gan ddefnyddio ein cyflenwad rhwydwaith lleol, ynghyd a hyblygrwydd ein tîm, llwyddwyd i ddelio â’r problemau yma ac eto cyflawni'r gwaith ar amser."


Ariennir Sêr Cymru yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.

bottom of page